![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
Mae eich tâl aelodaeth yn ffynhonnell bwysig iawn o gyllid er cadw’n agor Ty’n Cornel, hostel annwyl mewn llecyn rhyfeddol o’r wlad. Da chi cefnogwch adnodd penigamp wrth ymaelodi ac, yr un mor bwysiced, dod i aros mewn hostel pan mae’n bosib ac yn ogystal, annog eraill i ddod. Os, a phan fydd cyllid yn caniatáu, gobaith yr Ymddiriedolaeth yw i achub hosteli Dolgoch a Blaencaron hefyd.
| Oedolyn | £10.00 (1 blynedd) £18.00 (2 blynedd) £25.00 (3 blynedd) | Sy’n cynnwys eich plant dan 18 oed pan fônt gyda chi. |
|---|---|---|
| Dan 18 | £7.50 (1 blynedd) | I rai 14 i 18 oed ar eu pennau eu hunain. |
| Grðp | £25.00 (1 blynedd) | I griw o 5 neu ragor o bobl wedi ei ffurfio’n gyfansoddiadol pryn ai’n teithio’n gyda’i gilydd ai beidio. Os yw’r grðp yn cynnwys rai dan 14 oed, mae’n rhaid bod oedolyn o’r un rhyw gyda nhw pan fônt yn aros. |
Gall aelodau aros yn, neu wersylla ger, Hostel(i) Unigeddau’r Elenydd a chant newyddlen gyda diweddariadau parthed gwaith yr Ymddiriedolaeth.
Os ydych yn gallu arwyddo’r datganiad Cymrodd ar y ffurflen ymaelodi gall yr Ymddiriedolaeth hawlio 28c ychwanegol am bob punt o’ch tâl aelodaeth o’r Cyllid Gwlad.
| Oedolion Dan 18 Gwersylla | £10.00 / nos £7.50 / nos £5.00 / nos / unigolyn |
|---|
Argraffwch un o’r ffurflenni aelodaeth os gwelwch yn dda, llenwch hi a’i phostio i’r Ysgrifennydd Aelodaeth:
| Oedolion / Dan 18 ffurflen aelodaeth | Grðp ffurflen aelodaeth |
Am ragor o wybodaeth cysyllter â’r Ysgrifennydd aelodaeth neu phonio +44 (0)1226 764 052 (hwyr DU).
(h) Ymddiriedolaeth Hosteli Unigeddau'r Elenydd, 2007