![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
Mae ardal fynyddig yr Elenydd yn un fendigedig ar gyfer cerdded a beicio. Yn y 19eg ganrif arferid cerdded da byw o Gymru i farchnadoedd Lloegr ar hyd llwybrau ar draws y mynyddoedd. Mae cerddwyr a seiclwyr yn dal i allu defnyddio'r hen lwybrau porthmyn hyn.
Mae tri Hostel yr Elenydd wedi'u lleoli'n berffaith er sicrhau bod y rheini sy'n hoff o'r awyr agored yn gallu mwynhau heddwch a llonyddwch yr ardal i'r eithaf.
Yn ogystal â'r llwybrau cerdded yn ardal Elenydd, mae mynediad agored i lawer o'r tir uchel. Golyga hyn y gall cerddwyr grwydro lle y mynnon nhw, ond fe'ch rhybuddir bod y mannau corsiog, twmpathog yn waith caled. Mae llwybr cerdded pellter mawr Ffordd Cambrian, sy'n ymestyn o Gaerdydd i Gonwy, yn mynd heibio i Hostel Ty'n Cornel ac yn agos i Blaencaron. Mae Cwm Doethie yn rhan arbennig o brydferth o Ffordd Cambrian. Mae llawer o bobl yn mwynhau cerdded rhwng y tri hostel. Mae sawl llwybr gwahanol, ac maen nhw'n ffurfio triongl bras sy'n gwneud taith 3 diwrnod, fendigedig.
Mae'r heolydd yn dawel a'r drafnidiaeth yn brin, ac ar gyfer y seiclwyr egnïol yn eich plith mae digon o riwiau gan gynnwys yr enwog 'Risiau'r Diafol' ar y ffordd i Abergwesyn. Mae llwybr beiciau cenedlaethol Lon Las Cymru, sy'n croesi Cymru o Gaerdydd i Gaergybi, yn mynd heibio i Hostel Dolgoch sydd ryw hanner ffordd union ar hyd y llwybr 175 milltir hwn. Oddi ar y ffordd fawr mae digonedd o lwybrau cerdded a llwybrau marchogaeth, a bydd Llwybr Ystwyth ar agor toc, sy'n defnyddio'r hen reilffordd o Dregaron i Aberystwyth.
Mae Martin Hanks wedi cynhyrchu cyfres o fapiau â darluniau hardd sy'n dangos teithiau cerdded yn y bryniau o gwmpas hosteli'r Elenydd...
| Dwy gylchdaith droed o Dy'n Cornel | ||
| Taith gron o Blaencaron | ||
| Taith gerdded o Ddolgoch i Dy'n Cornel | ||
| Taith gerdded o Dy'n Cornel i Flaencaron (2 mapiau) | ||
| Taith gerdded o Flaencaron i Ddolgoch (2 mapiau) |
Cliciwch YMA i weld tudalen o luniau Dave Plummer, un o'n cefnogwyr. Fe'u tynnwyd ym mis Awst 2004 wrth gerdded gydag eraill rhwng hosteli yn yr Elenydd.
(h) Ymddiriedolaeth Hosteli Unigeddau'r Elenydd, 2007