![]() | ![]() |
![]() | Blaencaron Ar gau am byth ers Hydref 2006, hostel ieuenctid elfennol, traddodiadol |
Yn wreiddiol adeiladwyd Blaencaron fel ysgol yn 1883 ar gyfer plant ardal Cwm Croes. Chwe phlentyn oedd yn yr ysgol yn 1932 ac felly cauwyd hi ac aeth y plant i ysgol Tregaron. Sant oedd Caron ac enwyd y dref, yr eglwys, y gors a Blaencaron ar ei ôl. Yn 1950 cafodd yr adeilad ei droi yn hostel ieuenctid a death grwp o ieuenctid draw o'r Almaen yn 1952 i helpu gyda atgyweirio'r adeilad fel rhan o atgyfnerthu'r berthynas rhwng y gwledydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Bu Mrs Cassie Jones, Glanyrafon Isaf, yr warden ar yr hostel am 35 o flynyddoedd, hyd nes iddi ymddeol yn 2005. Croesawodd ymwelwyr o bob rhan o'r byd, nifer o Ganada yr Amerig ac Awstralia. Mae'r hostel wedi ei lleoli wrth droed y bryniau, dair milltir o Dregaron, lle ceir nifer o siopau, tafarndai, lleoedd bwyta, banciau, swyddfa bost yn ogystal a chanolfan y Barcud.
Mae Blaencaron mewn lleoliad bendigedig, wrth droed bryniau diarffordd Yr Elenydd a 15 milltir o arfordir naturiol Bae Ceredigion. Bydd cerddwyr sy'n ysu i ymgolli mewn gwlad naturiol wrth eu bodd yma; mae gwylio adar yn arbennig o dda, mae hen ddigon o lwybrau i feiciau mynydd a hefyd mae digonedd o lwybrau cerdded. Tipyn o bopeth i bawb. Mae Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Caron, Abaty Ystad Fflur a lein fach Pontarfynach gyda'r rhaeadrau i gyd o fewn cyrraedd.
'Caron' oedd y sant a roddodd ei enw i eglwys a thref Tregaron a'r gors fawr gerllaw. Ystyr Blaencaron yw ffin yr ardal, yr ardal uwchben y dref.

Cliciwch ar lun i'w weld yn agosach...
![]() | Mapiau OS: | Landranger 146 Explorer 187 a 199 | (1:50,000) (1:25,000) | |
| Cyfeirnod grid: | SN 713 608 | |||
| Trafnidiaeth gyhoeddus: | Tren Bws | Aberystwyth (32 km / 20 mllt) Pontarfynach (27 km / 17 mllt) Tregaron (5 km / 3 mllt) | ||
| Siop agosaf: | Tregaron | 5 km / 3 mllt | ||
| Hosteli agosaf: | Dolgoch Ty'n Cornel | 20 km / 12 mllt (ffordd) 15 km / 9 mllt (llwybr) 23 km / 14 mllt (ffordd) 13 km / 8 mllt (llwybr) | ||
| G+B agosaf: | Tregaron | 5 km / 3 mllt | ||
Mae Blaencaron ar hyd lôn gefngwlad, 5 km / 3 milltir i' gogledd ddwyrain o Dregaron.
| Mae Martin Hanks wedi cynhyrchu cyfres o fapiau darluniedig yn dangos troion yn y bryniau a gwmpas hosteli Elenydd. Gweler ein tudalennau Cerdded a beicio. |
(h) Ymddiriedolaeth Hosteli Unigeddau'r Elenydd, 2007