![]() | ![]() |
![]() | Hostel Ty'n Cornel |
Yr hostel fwyaf diarffordd yng Nghymru dywedodd rhywun. Mae fyny yn y bryniau ar uchder o 400m ar bwys lôn garegog a groesa'r mynydd. O bob cyfeiriad does dim golwg o'r hostel tan i chi droi y gornel olaf a gweld y bwythyn. Yr enw llawn yw 'Tyddyn yn y Gornel' sy'n addas iawn.
Adeiladwyd y bwthyn yn gynnar yn y G19eg fel un o'r ffermydd oedd yn britho'r ardal ond mae'r rhan fwyaf yn adfeilion nawr. Dim ond ar ddiwedd y 40'au cafodd plant y fferm drafnidiaeth i'w cludo i'r ysgol gynradd yn Llanddewi Brefi; cyn hynny roedd rhaid iddyn nhw aros yn y pentref yn ystod yr wythnos, hyd yn oed y plant 5 mlwydd oed! Roedd y cartrefi a'r hostel yn y cwm heb drydan tan 2003/4 a grant o'r UE gysylltodd nhw â'r Grid - mae nifer heddiw yn hiraethu am y golau nwy yn Ty'n Cornel!
Symudodd y teulu olaf allan o'r fferm yn 1952 a defnyddir y tir gan ffermwr arall. Gyferbyn yr oedd adeiladau, coed a gardd - symudwyd y rhain er mwyn adeiladu y siediau sy yna nawr. Ar rent i'r YHA oedd yn ty; yn y 60'au a gwerthwyd e iddyn nhw yn 1973 gan Wil Lewis a oedd yn warden ar y pryd ac a barhaodd felly tan yr 80'au.
A'r trac gerllaw'r hostel ymlaen i gapel unig Soar y Mynydd. Adeiladwyd hwn yn y G18fed pan roedd llawer mwy yn byw yn y cyffiniau a chyn i'r cymoedd cyfagos gael eu boddi i greu cronfa ddwr Llyn Brianne. Mae'r capel mewn cyflwr da a cheir gwasanaeth yno pob Sul yn yr haf.
Ffefryn gyda'r rhai sy'n hoffi unigedd yw'r bwthyn. Gall cerddwyr fforio'r tir mynyddig o du allan y drws tra bod gan beiciwr mentrus sawl lôn fryniog i ddewis. Pa le bynnag yr ewch mae'n debygol y gwelwch chi'r barcud, yr aderyn ysgylafaethus a fu bron a diflannu tua 15 mlynedd yn ôl.
Mae'r hostel yn gyfforddus gyda thân agored yn y lolfa. Gerllaw'r adeilad mae llecyn o dir glas lle gellir gosod pabell.
Cliciwch ar lun i'w weld yn agosach...
Mae'r sylwadau mwyaf diweddar yn dangos cymaint mae pobl wedi mwynhau aros yna:
Treuliais noson yma ym mis Tachwedd 1976 yn ystod taith yng nghanol Cymru. Un o hosteli mwyaf cyfforddus y daith. Rwy'n cofio taw nwy oedd yn goleuo'r lle a torrwyd 2 mantl wrth ceisio cynnau'r golau.
Gan taw 5 Tachwedd oedd hi fe brynon ni dângwyllt yn Nhregaron a chael parti ar y llecyn glas. Y ffermwr ddefrodd ni yn y bore wrth iddo roi defaid yn y gorlan - diolch byth achos heb gloc larwm bydden ni wedi cysgu 'mlaen.
Arosais i ym Mlaencaron ym 1975 ac ym 1976.
Byddai colli'r hosteli yma yn gywilyddus. Rydw i am ymuno â'r ymddiriedolaeth a trio cadw rhain ar agor.
![]() | Mapiau OS: | Landranger 147 Explorer 187 | (1:50,000) (1:25,000) | |
| Cyfeirnod grid: | SN 751 535 | |||
| Trafnidiaeth gyhoeddus: | Tren Bus | Aberystwyth (45 km / 28 mllt) Llanddewi Brefi (11 km / 7 mllt) Tregaron (16 km / 10 mllt) | ||
| Siop agosaf: | Llanddewi Brefi | 11 km / 7 mi | ||
| Hosteli agosaf: | Dolgoch | 31 km / 19 mllt (ffordd) 8 km / 5 mllt (llwybr) | ||
Rhaid dilyn yr arwyddion brown i Dy'n Cornel o Landdewi Brefi. Ewch ar y ffordd de-ddwyrain fyny cwm Brefi a fforchiwch i'r chwith wedi 7.5 km / 4¾ milltir. Ymlaen eto am 1.5 km / 1 filltir ar ôl i'r ffordd droi'n lôn arw.
Mae hostel syml Ty'n Cornel yn cynnig y canlynol:
Y mae Ty'n Cornel ar agor drwy gydol y flwyddyn; manylion bwcoi ar gael ar wefan y YHA.
| Mae Martin Hanks wedi cynhyrchu cyfres o fapiau darluniedig yn dangos troion yn y bryniau a gwmpas hosteli Elenydd. Gweler ein tudalennau Cerdded a beicio. |
(h) Ymddiriedolaeth Hosteli Unigeddau'r Elenydd, 2007