![]() | ![]() |
![]() | ![]() |
Croeso i YMDDIRIEDOLAETH HOSTELI UNIGEDDAU'R ELENYDD, a sefydlwyd ym Mai 2006 i arbed y tri hostel ieuenctid unigryw yn yr Elenydd sy'n annwyl gan lawer.
| STOP PRESS MAE DOLGOCH YN AWR YN EIDDO I NI! Cwblhawyd perchnogaeth Dolgoch gan yr Ymddiriedolaeth ar Ddydd Gwener Tachwedd 2. Diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgyrch i wireddu'r freuddwyd! Am resymau yswiriant, rhaid oedd i ni roi clo cyfuniad ar y drws, fel yn Ty'n Cornel. Cewch wybod y Rhif Cyfuniad pan drefnwch i aros yno. |
Yr Elenydd yw ardal fynyddig yng Nghanolbarth Cymru rhwng Llanwrtyd a Thregaron. Y mae'n lle anghysbell a hardd, lle na thorrir y distawrwydd ond gan fref defaid neu ambell gri aderyn. Y mae'n ardal ardderchog ar gyfer gweithgareddau awyr agored - cerdded, beicio, marchogaeth - ac yn lle delfrydol ar gyfer dianc rhag pwysau'r byd cyfoes.
Ers blynyddoedd maith, bu tri hostel, Blaencaron, Dolgoch a Thy'n Cornel yn darparu llety i ymwelwyr i'r ardal. Tai fferm wedi'u haddasu yw dau ohonynt, yn uchel yn y mynyddoedd, ac mae'r llall yn ysgol wedi'i haddasu ar gyrion tref fechan Tregaron. Maent i gyd yn hosteli syml, llawn cymeriad, sy'n cael eu rhedeg gan wardeniaid o wirfoddolwyr, ac sy mewn safleoedd syfrdanol o hardd.
| Blaencaron | Ty'n Cornel (Tyncornel) | Dolgoch |
| COLLWYD i berchennog preifat | ACHUBWYD - rhedir gan yr Ymddiriedolaeth fel hostel annibynnol | ACHUBWYD... |
Yn rhan o'i chynllun enfawr i gau hosteli, y mae'r YHA wedi penderfynu cau a gwerthu'r tri hostel. Y mae hyn yn newyddion trist dros ben i'r ardal ac i'r holl ymwelwyr, beicwyr a cherddwyr sy'n ddod i aros yn yr hosteli. Sut bynnag, mae nifer yn awyddus i gadw'r hosteli ar agor ac wedi sefydlu Ymddiriedolaeth Elusennol i'w prynu a'u rhedeg.
Achubwyd Ty'n Cornel ond, yn anffodus, yn anffodusu, gwerthwyd Blaencaron ac felly mae ar goll am byth. Gallwch fod o gymorth i achub Dolgoch a chadw Ty'n Cornel ar agor drwy ddod yn aelod o'r Ymddiriedolaeth neu drwy wneud cyfraniad
(h) Ymddiriedolaeth Hosteli Unigeddau'r Elenydd, 2007