![]() |
|||||
|
© (h) Janet Hollins, 2005 |
|||||
News updates |
Newyddion |
||||
18 June 2006It now seems that we shall not know the YHA's decision on Ty'n Cornel until mid July. We will send out another newsletter after that. You can now become a Friend of the Elenydd Wilderness Hostels. We plan to have website pages for photos and articles about the Elenydd hostels and the surrounding area (past and present). Please send your articles to Sue and photos to Chris. Thank you. |
18 Mehefin 2006Erbyn hyn, mae'n debyg na fyddwn yn gwybod beth fydd penderfyniad y YHA ynghylch Ty'n Cornel tan ganol mis Gorffennaf. Anfonwn gylchlythyr arall pryd hynny. Erbyn hyn, gallwch ddod yn 'Gyfaill i Hosteli Unigeddau'r Elenydd'. Bwriadwn gynnal tudalennau gwefan ar gyfer erthyglau am hosteli'r Elenydd a lluniau (hen a newydd) ohonynt ac o'r ardal o'u cwmpas. Anfonwch eich erthyglau at Sue a ffôtos at Chris. Diolch. |
||||
6 June 2006A Charitable Trust, 'Elenydd Wilderness Hostels', is in the process of being registered with the UK Charities Commission. Supporters have offered nearly £30,000 in donations towards buying Ty'n Cornel and Dolgoch when the Trust has been set up. We have over 300 supporters so far and we aim to expand this considerably by the time the YHA closes Ty'n Cornel at the end of October. The YHA unexpectedly brought Ty'n Cornel onto the market at an asking price of £125,000 on 14th May. Two of the Trust's supporters have put in a bid to buy it and the Trust is negotiating an agreement with them to run and maintain it for an initial period of 5 years. We think that we can make a success of this with the backing of the Trust's supporters. The YHA asked for best offers for the hostel to be in by 5th June and it remains to be seen whether it will accept the bid backed by the Trust. We understand that the YHA will make its decision within the next week or so. We would run the hostel under the YHA Enterprise scheme so it would continue to appear in the YHA handbook and on its website, but be listed as a private hostel. This means that the hostel would continue to be advertised as it has been by the YHA, but we also plan to market and advertise it in different ways. Any thoughts or comments would be welcome. |
6 Mehefin 2006Ar hyn o bryd, mae 'Hosteli Unigeddau'r Elenydd' ar ganol cael ei gofrestru yn Ymddiriedolaeth Elusennol gan Comisiwn Elusennau'r DU Mae bron i £30,000 wedi cael ei gynnig fel rhoddion gan gefnogwyr tuag at brynu Ty'n Cornel a Dolgoch unwaith y bydd yr Ymddiriedolaeth wedi'i sefydlu. Hyd yn hyn, mae gennym dros 300 o gefnogwyr, ond rydym yn anelu at gynyddu'r nifer yn sylweddol erbyn i'r YHA gau Ty'n Cornel ar ddiwedd mis Hydref. Rhoddwyd Ty'n Cornel ar werth gan y YHA yn ddi-rybudd ar yr 14eg Fai 2006 am bris o £125,000. Mae dau o gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth wedi rhoi cynnig i mewn i geisio prynu Ty'n Cornel, ac mae'r Ymddiriedolaeth yn trafod cytundeb gyda nhw i redeg a chynnal yr hostel am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd. Rydym yn credu y gallwn wneud llwyddiant o hyn gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth a'i cefnogwyr. Gofynnodd y YHA am i gynigion fod i mewn erbyn y 5ed o Fehefin, ac arhoswn i weld a fyddant yn derbyn y cais a gefnogir gan yr Ymddiriedolaeth. Deallwn y penderfynith y YHA o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf. Buasem yn rhedeg yr hostel o dan gynllun Menter y YHA (YHA Enterprise), felly byddai yr hostel yn parhau i ymddangos yn llawlyfr y YHA ac ar ei gwefan, ond byddai'n cael ei restru fel hostel preifat. Golyga hyn y byddai'r hostel yn cael ei hysbysebu fel ag y mae trwy'r YHA, ond bwriadwn ei farchnata a'i hysbysebu mewn ffyrdd gwahanol hefyd. Croesawn unrhyw sylwadau sy gennych. |
||||
|
|||||
|
|
|
||||